Lleoliad:
Hybrid - Ystafell Bwyllgora 5 Tŷ
Hywel a fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd
Iau, 24 Mawrth 2022
Amser:
09.32 -
15.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12644
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Russell George AS (Cadeirydd) Gareth Davies AS Mike Hedges AS Jack Sargeant AS Joyce Watson AS |
Tystion: |
Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Nick Wood, Llywodraeth Cymru Albert Heaney, Llywodraeth Cymru Andy Bell, Y Ganolfan Iechyd Meddwl Dr Antonis Kousoulis, Sefydliad Iechyd Meddwl Yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru Kirrin Spiby-Davidson, Comisiynydd Plant Cymru Heléna Herklots, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Helen Finlayson (Clerc) Claire Morris (Ail Glerc) Lowri Jones (Dirprwy Glerc) Amy Clifton (Ymchwilydd) Philippa Watkins (Ymchwilydd) Sarah Hatherley (Ymchwilydd) Steven Williams (Swyddog) Rhayna Mann (Swyddog) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhun ap Iorwerth AS.
2 Rhyddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai: sesiwn dystiolaeth gyda’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
2.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
2.2 Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ei bod
wedi hyfforddi a gweithio fel gweithiwr cymdeithasol.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 4, 8, 9, 10 ac 11 o gyfarfod heddiw
3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.
4 Rhyddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai: trafod y dystiolaeth
4.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafodd a nododd feysydd i'w cynnwys yn yr adroddiad.
5 Anghydraddoldebau iechyd meddwl: sesiwn dystiolaeth gyda’r Ganolfan Iechyd Meddwl a’r Sefydliad Iechyd Meddwl
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolydd o'r Ganolfan ar gyfer Iechyd Meddwl a'r Sefydliad Iechyd Meddwl.
6 Anghydraddoldebau iechyd meddwl: sesiwn dystiolaeth gyda Chomisiynydd Plant Cymru a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru
6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gomisiynydd Plant Cymru a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru.
7 Papurau i’w nodi
7.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau at y Cadeirydd ynghylch deiseb P-06-1241 Llywodraeth Cymru i gwrdd â chynulleidfa ehangach o ofalwyr di-dâl
7.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
7.2 Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23
7.2 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.
8 Anghydraddoldebau iechyd meddwl: trafod y dystiolaeth
8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafodd a chytunwyd ar ei ddull gweithredu ar gyfer cam nesaf yr ymchwiliad.
9 Blaenraglen Waith
9.1 Cytunodd y Pwyllgor i ddychwelyd at y drafodaeth ar ôl toriad y Pasg.
10 Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl sy'n aros am ddiagnosis neu driniaeth: trafod yr adroddiad drafft
10.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft, yn amodol ar fân ddiwygiadau, a fydd yn cael eu cytuno drwy e-bost.
11 Iechyd menywod a merched: trafod llythyr
11.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y llythyr.